Cyflwynwyd yr ymateb hwn i’r ymgynghoriad ar y Bil Bwyd (Cymru) Drafft

This response was submitted to the consultation on the Draft Food (Wales) Bill

OSFB006

Ymateb gan: | Response from:  Archwilio Cymru | Audit Wales

General Views

Please provide any additional information relevant to the draft Bill.

Mae goblygiadau i Archwilio Cymru wrth sefydlu'r Comisiwn Bwyd yn y ffordd a gynigir gan y bydd angen i Archwilydd Cyffredinol Cymru archwilio'r Comisiwn. Fel sydd yn digwydd pan sefydlir unrhyw gorff cyhoeddus arall (gydag ambell i eithriad megis cyrff cwbl ymgynghorol), mae goblygiadau o ran adnoddau ar Archwilio Cymru. Fodd bynnag, mae ein sylwadau yn canolbwyntio ar gryfhau’r darpariaethau archwilio a gynigir yn y Mesur drafft. 

Mae angen gwneud rhai newidiadau i’r darpariaethau archwilio a nodir yn Rhan 4 o'r Mesur drafft er mwyn sicrhau bod darpariaethau archwilio yn cyrraedd y safon sydd bellach yn berthnasol i'r rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus Cymru, gan gynnwys holl gyrff Llywodraeth Leol a GIG.

Un elfen allweddol sydd ar goll yn y Mesur drafft ydy darpariaeth sydd yn cyfateb i adran 17(2)(d) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004. Mae’r adran honno yn ei gwneud yn ofynnol i'r Archwilydd Cyffredinol fodloni ei hun bod corff wedi gwneud trefniadau priodol ar gyfer sicrhau economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddefnyddio adnoddau.  

Mae angen darpariaeth o'r fath er mwyn rhoi sicrwydd, i ddal cyrff yn atebol ac i graffu ar ymdrechion cyffredinol cyrff i wneud defnydd da o arian cyhoeddus. Mae’r fath ddarpariaeth hefyd yn ddefnyddiol er mwyn ategu dyletswydd yr Archwilydd Cyffredinol i gynnal archwiliadau Egwyddor Datblygiad Cynaliadwy o dan adran 15 Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. (Fel y cynigiwyd yn y Mesur drafft, bydd holl ddarpariaethau Ddeddf 2015 yn berthnasol i’r Comisiwn ac felly bydd yn amodol i archwiliadau o'r fath.)

Mae hefyd angen sicrhau bod darpariaethau archwilio yn cyrraedd y safon sydd bellach yn berthnasol i gyrff newydd o ran terfynau amser ar gyfer cyflwyno ac archwilio cyfrifon. Mae adran 17 o'r Mesur drafft yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn Bwyd gyflwyno ei gyfrifon i Archwilydd Cyffredinol Cymru fan bellaf erbyn 31 Awst yn y flwyddyn ariannol ganlynol, ac i'r Archwilydd Cyffredinol osod y datganiadau ariannol a archwiliwyd gerbron y Senedd o fewn pedwar mis i'r cyfrifon gael eu cyflwyno. Fodd bynnag, mae angen darpariaeth i ymdrin â'r senario lle nad yw'r Archwilydd Cyffredinol yn gallu rhoi barn a'i osod gerbron y Senedd o fewn pedwar mis i'r cyfrifon gael eu cyflwyno. Mae angen darpariaeth o'r fath, er enghraifft, lle mae materion sylweddol yn codi yn ystod yr archwiliad, gan gynnwys beirniadaeth ar drydydd partïon. Yn y fath sefyllfa, mae’n rhaid rhoi digon o amser i drydydd parti roi sylwadau cyn cyhoeddi’r adroddiad archwilio. Mae paragraff 18 o Atodlen 1  Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 yn enghraifft dda o sut y gellir gwneud hyn.